Mae Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, wedi addo y bydd e’n datgriminaleiddio cysgu ar y stryd pe bai’n dod yn Brif Weinidog.

Byddai’r addewid yn gweld Deddf Gardota 1824 yn cael ei dileu, ac mae’n dod ar ôl iddi ddod i’r amlwg yr wythnos hon y bu farw bron i 600 o bobol ddigartref ar strydoedd gwledydd Prydain y llynedd.

Cafodd y ddeddf ei defnyddio bron i 3,000 o weithiau yn 2016, gyda dirwyon o hyd at £1,000 i bobol oedd wedi’u cael yn euog.

Mae hynny’n gynnydd o 24% dros gyfnod o bum mlynedd.

Gyula Remes, 43, yw’r person digartref diweddaraf i farw, ar ôl iddo gael ei daro’n wael ger San Steffan nos Fawrth.

‘Cywilydd’

“Fe ddylai fod yn destun cywilydd i ni fod cysgu ar y stryd wedi dyblu dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, a bod bron i 600 o bobol ddigartref wedi marw y llynedd,” meddai Jeremy Corbyn.

“Mae angen cymorth, nid cosb, ar bobol ddigartref.”

Ddechrau’r wythnos, cyhoeddodd y Blaid Lafur gynlluniau i sefydlu cronfa £100m er mwyn helpu pobol ddigartref mewn tywydd oer, gan sicrhau bod ganddyn nhw lety.

Mae nifer o elusennau wedi croesawu addewid Jeremy Corbyn.