Mae panel annibynnol wedi barnu nad oedd Boris Johnson wedi torri cod ymddygiad y Blaid Geidwadol mewn sylwadau dadleuol a wnaeth am wisgoedd merched Mwslimaidd.

Mewn colofn ym mhapur newydd y Daily Telegraph yn ystod yr haf, roedd y cyn-ysgrifennydd tramor wedi awgrymu bod merched sy’n gwisgo burqa yn edrych yr un fath â blychau llythyrau neu ladron ban.

Er gwaethaf ymateb chwyrn i’w sylwadau ar y pryd, roedd y panel a gafodd ei sefydlu o dan gadeiryddiaeth Naomi Ellenbogen QC o’r farn ei fod yn “barchus a goddefgar” a bod ganddo bob hawl i ddefnyddio “dychan” i gyfleu ei syniadau.

Roedd wedi dweud bod y burqa yn wisg ormesol a’i bod yn “hurt fod pobl yn dewis mynd o gwmpas yn edrych fel blychau llythyrau”.

Yn ôl y panel annibynnol,  gellid ystyried bod y defnydd o iaith yn y golofn yn “bryfoclyd”, ond y byddai’n “annoeth sensro’n ormodol iaith cynrychiolwyr pleidiau neu’r defnydd o ddychan i bwysleisio barn”.

Wrth groesawu’r dyfarniad, dywedodd un o ffrindiau Boris Johnson:

“Mae’n cefnogi’n llwyr yr hyn a ddywedodd Boris o’r dechrau un – roedd ei erthygl yn meithrin parch a goddefgarwch at wisgo’r burqa.”