Fe fydd dyn 39 oed yn mynd gerbron llys heddiw wedi’i gyhuddo o ymosod ar ei fab tair oed ag asid.

Mae’r dyn, nad oes modd ei enwi, yn un o chwech o bobol sydd wedi’u cyhuddo mewn perthynas â’r achos.

Mae Adam Cech (27) a Jan Dudi (25) o Birmingham, Jabar Paktia (41) o Wolverhampton, Norbert Pulko (22) a Saied Hussini (41) o Lundain a Martina Badiova (22) o Birmingham, ynghyd â thad y bachgen yn gwadu cynllwynio i ymosod arno rhwng Gorffennaf 12-22.

Mae disgwyl i ddyddiad gael ei bennu ar gyfer dechrau’r achos.