Mae tri o bobol wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn achos o drywanu mewn canolfan iechyd yn nwyrain Llundain.

Fe gafodd swyddogion eu galw i St Stephen’s Health Centre yn Tower Hamlets 11.06yb ddydd Mercher, yn ôl Scotland Yard.

Mae’r tri sydd yn yr ysbyty yn cael eu trin am anafiadau sydd ddim yn bygwth eu bywydau, ond sy’n gydnaws â chael eu trywanu.

Mae Heddlu’r Met hefyd wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n trin y digwyddiad fel un yn ymwneud â brawychiaeth.