Mae cadeirydd y bwytai cadwyn, Wetherspoon, wedi ysgrifennu at bob Aelod Seneddol yn esbonio sut mae’r undeb tollau yn gweithio.
Yn ôl Tim Martin, sy’n gefnogwr brwd o Brexit, does gan lawer o wleidyddion “ddim gwybodaeth” am sut mae’r system yn gweithio.
Yn ei lythyr, dywed fod yr undeb tollau yn “system amddiffynnol” sy’n gosod trethu ar 12,651 o fewnforion sy’n dod o tu hwnt yr Undeb Ewropeaidd, fel orenau reis, bananas a dillad ac esgidiau plant.
“Mae’r undeb tollau yn cynyddu prisiau i gwsmeriaid ac mae incwm y tollau yn cael ei gasglu gan Lywodraeth Prydain a’i anfon i Frwsel,” meddai’r llythyr.
“Mae’n bryderus nad oes gan Aelodau Seneddol dim gwybodaeth ynghylch sut mae’r tollau’n gweithio a faint y mae’n costio i etholwyr o ddydd i ddydd.”