Mae’r gwasanaethau brys wedi ymateb yn dilyn adroddiadau bod lorïau wedi troi ar eu hochrau ar fferi yn yr Alban oherwydd gwyntoedd cryfion.

Cafodd sawl ambiwlans, ynghyd â’r heddlu a’r brigâd tân, eu hanfon at y fferi sydd wrth lan yn ardal Cairnryan yn ne-orllewin y wlad.

Yn ôl yr awdurdodau, ni chafodd neb eu hanafu yn ystod y digwyddiad.

Mae’n debyg bod y loriau wedi troi ar eu hochrau am tua 7:30yb, a hynny yn ystod tywydd garw.