Mae timoedd achub yn ceisio rhyddhau llong o Rwsia sydd wedi mynd i dir yng Nghernyw.

Yn ôl llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau, fe gawson nhw eu galw yn sgil adroddiad bod llong 180 metr wedi mynd yn sownd rhwng traethau Swanpool a Gyllyngvase ger Falmouth am tua 5.40yb.

Mae’r gwaith o ryddhau’r llong, sy’n cynnwys criw o 18 ond dim cargo, yn digwydd ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i’r gwaith barhau wrth i’r llanw gynyddu.