Mae disgwyl i Theresa May drafod y paratoadau ar gyfer sefyllfa ‘dim cytundeb’ pan fydd hi’n cyfarfod â’i Chabinet heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 18).

Daw’r cyfarfod yn sgil y cyhoeddiad bod arweinydd yr wrthblaid, Jeremy Corbyn, wedi cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae Stryd Downing wedi cyhuddo arweinydd y Blaid Lafur o wneud “stynt” gwleidyddol ar ôl iddo gyflwyno’r cynnig a galw ar Theresa May i gynnal y bleidlais ar y cytundeb Brexit cyn y Nadolig.

Mae nifer yn teimlo bod cynnig Jeremy Corbyn ddim yn mynd yn ddigon pell, gan ei fod yn gynnig o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog yn unig yn hytrach na’r Llywodraeth gyfan.

Byddai diffyg hyder yn y Llywodraeth, o ennill y bleidlais, yn gorfodi etholiad cyffredinol, ac mae’r pleidiau llai yn Nhŷ’r Cyffredin eisoes wedi galw ar Jeremy Corbyn i newid geiriad y cynnig fel ei fod yn cynnwys hynny.

Mae plaid y DUP ac Aelodau Seneddol Ceidwadol o’r garfan Brexit wedi dweud ei bod nhw am gefnogi Theresa May mewn pleidlais o ddiffyg hyder.