Mae grŵp sy’n ymgyrchu yn erbyn erthyliadau yn yr Alban yn bwriadu apelio ar ôl colli her gyfreithiol dros benderfyniad Llywodraeth y wlad i ganiatáu menywod beichiog i gymryd tabledi erthylu yn eu cartrefi.

Dadleuodd Cymdeithas Diogelu Plant Heb eu Geni (SPUC) fod y penderfyniad gan weinidogion i alluogi menywod i wneud hyn yn “anghyfreithlon” ac yn fygythiad i iechyd menywod.

Er hynny, fe wrthododd y barnwr y Fonesig Wise y ddadl honno mewn achos llys yn gynharach y flwyddyn hon yn dilyn gwrandawiad ym mis Mai.

Fe apeliodd y Gymdeithas yn erbyn y penderfyniad ac mae gwrandawiad i’r apêl honno yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth (Rhagfyr 18).

“Cawsom ein siomi gan y penderfyniad gwreiddiol ond roedd hi’n fwriad gennym ni o hyd i ymladd yr achos tan y diwedd,” meddai prif weithredwr y Gymdeithas, John Deighan.

“Mae ein safle a’n credoau yn parhau i fod yr un peth.”

“Ar ôl ystyried y dyfarniad yn drylwyr ac ar y cyd a chyngor cyfreithiol, rydym bellach yn apelio.”

Lansiodd yr ymgyrchwyr gamau cyfreithiol ar ôl i Brif Swyddog Meddygol yr Alban, Dr Catherine Calderwood, gadarnhau ei bod wedi ysgrifennu at fyrddau iechyd i nodi bod menywod y tu allan i leoliad clinigol yn medru cymryd y tabledi misoprostol.