Mae Sŵ Caer yn dweud eu bod wedi eu “syfrdanu’n llwyr” ar ôl derbyn £120,000 gan y cyhoedd yn dilyn tân dinistriol ar y safle ddydd Sadwrn (Rhagfyr 17).

Mae’r Sŵ wedi diolch i’r cyhoedd am eu cyfraniad sydd wedi mynd y tu hwnt i’w targed o £50,000.

Dywedodd penaethiaid y Sŵ bod arian yswiriant yn mynd i dalu am ddifrod y tân, a bod yr arian sydd wedi ei godi gan fwy na 6,800 o bobol yn mynd i gael ei wario ar waith cynnal a chadw.

Roedd rhaid i ymwelwyr adael y Sŵ ar ôl i’r tan ddechrau a bu’n rhaid i weithwyr symud nifer o anifeiliaid i safle diogel gan gynnwys criw o wranwtaniaid Sumatraidd, macaques Sulawesi, giboniaid arian ac adar megis cornylfilod rhinoseros prin.

Ond bu farw nifer o anifeiliaid gan gynnwys pryfed, brogaod, pysgod ac adar bychain oedd yn agos i wraidd y tân.

“Syfrdanu”

Bu mwy na 15 o griwiau tân a staff ambiwlans yno ar ôl i’r tân ddechrau yn y bore.

Cafodd un person ei drin am effeithiau anadlu mwg, yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Orllewin Lloegr.

Dywedodd y Sŵ bod y diwrnod yr ”hiraf yn ein hanes”, ond o fewn ychydig oriau roedd cannoedd o gefnogwyr wedi mynd ar y cyfryngau cymdeithasol i ddechrau apêl i godi pres.

Mae datganiad ar wefan apêl JustGiving y Sŵ yn dweud: “Rydan ni wedi ein syfrdanu yn llwyr gan y cariad gan bawb sydd eisiau ein helpu ni mewn unrhyw ffordd y gallent.”

Mae’r Sŵ, a gafodd 1.8 miliwn o ymwelwyr y llynedd, yn gweithio gyda Gwasanaeth Tan ac Achub Caer i ymchwilio i achos y tân – mae’n debyg ei fod wedi dechrau’n ddamweiniol.