Mae gwerth cyfrannau’r cwmni’r dillad ar-lein, ASOS, wedi gostwng yn sylweddol yn dilyn rhybudd am elw.

Mae cyfrannau’r cwmni wedi gostwng 42% ers i’r farchnad stoc gau ar ddechrau’r penwythnos, sef gostyngiad o £41.86 ddydd Gwener i £24.47 y bore yma.

Daw hyn yn dilyn rhybudd gan y cwmni bod yna “ddirywiad sylweddol” wedi bod mewn masnach yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig.

Yn ôl prif weithredwr ASOS, Nick Beighton, mae mis Tachwedd wedi bod yn gyfnod “anodd” i’r cwmni, ac mae’n rhoi’r bai ar Brexit, yr ansefydlogrwydd gwleidyddol a diffyg hyder gan gwsmeriaid.

Ond mae’n mynnu mai dim ond rhywbeth dros dro yw hyn i ASOS, ac na fydd yn atal y busnes rhag datblygu.

Mae nifer o siopau’r stryd fawr hefyd wedi dweud bod y farchnad wedi bod yn “heriol” ym mis Tachwedd ond mae’n ymddangos bod y trafferthion wedi lledu at gwmniau ar-lein hefyd.