Mae elusen yn gofidio am bobol ddigartref yn Hull, ar ôl i nifer o archebion am ystafelloedd dros gyfnod y Nadolig gael eu canslo ar yr unfed awr ar ddeg.

Mae gwesty’r Royal yn y ddinas a gafodd ei henwi’n Ddinas Diwylliant 2017 wedi canslo archeb am 14 o ystafelloedd ar gyfer 28 o bobol heb rybudd nac eglurhad.

Mae £1,092 eisoes wedi cael ei dalu ar gyfer yr ystafelloedd ar gyfer Noswyl Nadolig a Noson Nadolig.

Does dim sôn ar hyn o bryd faint o amser y bydd yn ei gymryd i ad-dalu’r swm, na chwaith a fydd modd dod o hyd i ystafelloedd yn y ddinas am bris rhesymol.

Mae’r prosiect Raise the Roof yn dweud eu bod nhw’n “grac iawn”, a bod eu prosiect Nadolig “yn y fantol” gan fod “angen gwyrth” arnyn nhw erbyn hyn.

‘Gwahaniaethu’

“Alla i ddim meddwl am unrhyw beth arall heblaw am wahaniaethu [yn erbyn pobol ddigartref],” meddai Carl Simpson, trefnydd y prosiect.

“Mae hyn yn achos o gicio pobol yn eu cyflwr isaf, tra eu bod nhw’n ddigalon.

“Roedden ni eisoes wedi dweud wrth bobol, gan roi llawer o obaith iddyn nhw. Nawr, mae’n rhaid i ni ddweud wrthyn nhw nad yw’n mynd i ddigwydd.

“Y Nadolig yw’r adeg waethaf yn y flwyddyn i bobol ddigartref, rydych chi’n gweld achosion o bobol yn lladd eu hunain yn cynyddu.”