Mae Sŵ Caer wedi cadarnhau bod nifer o anifeiliaid wedi marw yn y tân yno ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 15).

Fe fu farw pryfed, brogaod, pysgod ac adar bychain, meddai Jamie Christon, prif swyddog gweithredol y sŵ.

“Roedd ceidwaid wedi gallu annog yr holl famoliaid bychain i ffwrdd o’r tân ac i ddiogelwch – gan gynnwys criw o wranwtaniaid Sumatraidd, macaques Sulawesi, giboniaid arian ac adar megis cornylfilod rhinoseros prin y sŵ,” meddai.

“Ond rydym yn torri’n calonnau wrth ddweud nad oedden ni wedi gallu achub nifer o’n pryfed, brogaod, pysgod ac adar bychain oedd yn agos i wraidd y tân.

“Mae colli unrhyw anifail yn dorcalonnus, yn enwedig pan fo cadwraethwyr wedi gweithio mor galed i fridio’r creaduriaid hyfryd hyn.”