Mae nifer o gynghreiriaid Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn gwadu eu bod nhw’n cynllwynio i gynnal refferendwm Brexit o’r newydd.

Mae dau aelod o’i staff, Gweinidog y Swyddfa Gabinet David Lidington a phennaeth ei staff Gavin Barwell, yn awgrymu nad ydyn nhw o blaid pleidlais arall.

Daw’r adroddiadau ar ôl awgrym yr wythnos ddiwethaf fod David Lidington wedi bod yn ceisio cefnogaeth aelodau seneddol Llafur mewn ymgais i sicrhau galwad drawsbleidiol am ail refferendwm.

Ac mae Damian Hinds, Ysgrifennydd Addysg San Steffan, yn mynnu hefyd nad yw’r Cabinet wedi trafod ail refferendwm.

Cynllun Brexit Theresa May

Yn y cyfamser, mae un o weinidogion cysgodol Llafur yn dweud y bydd y blaid yn gwthio am ail bleidlais ar gynlluniau Brexit Theresa May cyn y Nadolig.

Yn ôl Andrew Gwynne ar raglen Andrew Marr ar y BBC, fe allai ail bleidlais o ddiffyg hyder ddilyn pleidlais ar ei chynlluniau.

“Y prif beth rydyn ni am ei gael yr wythnos nesaf yw’r bleidlais ystyrlon ar y Cytundeb Ymadael… Rydyn ni am gael honno cyn y Nadolig,” meddai.

“Byddwn yn asesu ein tactegau o ddydd i ddydd ond yn sylfaenol, tan i ni sicrhau’r bleidlais ystyrlon honno gan y Senedd, allwn ni ddim symud ymlaen i’r cam nesaf.

Beirniadu Llafur

Ond mae’r Blaid Lafur dan y lach hefyd am wrthod gwthio am bleidlais o ddiffyg hyder yn Theresa May.

Yn ôl Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, byddai’r bleidlais yn “egluro safbwynt Llafur” hyd yn oed pe bai’n aflwyddiannus.

“Safbwynt Llafur ar hyn o bryd yw na fydd yn cefnogi ail refferendwm Ewrop tan iddi geisio a methu â gorfodi etholiad cyffredinol, ond pe na bai’n gorfodi etholiad cyffredino, yna rydyn ni mewn sefyllfa ‘catch 22’,” meddai wrth raglen Sophy Ridge ar Sky News.

“Mae’n ymddangos i fi ar hyn o bryd fod Llafur yn gymaint o rwystr i sicrhau cynnydd ar Brexit ag ydyw’r Torïaid,” meddai.