Mae Sŵ Caer wedi codi mwy na’u targed o £50,000 yn dilyn y tân difrifol yno ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 15).

Mae’r tân wedi difrodi rhannau helaeth o’r to ar ardal y Goedwig Monsŵn, ac mae’r chwilio am nifer o anifeiliaid yn parhau. Mae rhai eisoes wedi’u cael yn ddiogel.

Mae swyddogion yn dweud y gallai gymryd “cryn amser” i ddod o hyd i’r holl anifeiliaid.

Cefndir

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r atyniad toc cyn 11.30yb.

Cafodd ymwelwyr a’r anifeiliaid eu tywys i ardal ddiogel wrth i ddiffoddwyr ddechrau mynd i’r afael â’r tân sylweddol.

Derbyniodd un person driniaeth am effeithiau mwg.