Mae Gweriniaeth Iwerddon gam yn nes at gyfreithloni erthyliad.

Mae mesur a fydd yn caniatáu i erthyliad gael ei gyfreithloni, eisoes wedi derbyn sêl bendith tŷ isaf y wlad – Dáil Éireann.

A bellach mae’r tŷ uchaf – Seanad Éireann – wedi cymeradwyo’r ddeddfwriaeth.

Bydd y mesur yn cael ei drosglwyddo yn awr at Arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins, ac yn dod i rym ymhen cael ei arwyddo.

Pan ddaw’r mesur yn ddeddf, bydd modd i fenywod sydd wedi bod yn feichiog am lai na 12 wythnos fynnu gwasanaeth erthylu.

Mewn achosion eithriadol, bydd modd i fenywod sydd wedi bod yn feichiog yn hirach na 12 wythnos fynnu’r gwasanaeth.

Mae disgwyl i’r ddeddf ddod i rym ar ddechrau’r flwyddyn nesaf.