Mae cyn-bennaeth yn y Fyddin Brydeinig, sydd nawr wedi ymddeol, yn dweud ei fod yn anghyfforddus gyda phrofion “annerbyniol a dialgar” digwyddiadau sydd wedi digwydd blynyddoedd yn ôl yn ystod Trafferthion Gogledd Iwerddon.

Byddai hyn yn effeithio ymddygiad milwyr mewn gweithredoedd milwrol yn y dyfodol meddai’r dyn wnaeth arwain y Fyddin yng Ngogledd Iwerddon yn 2006, meddai Syr Nick Parker,

Roedd yn gyfrifol am arwain ‘Operation Banner’ – ymgyrch a barodd rhwng 1969 a 2007.

Fe wasanaethodd dros 300,000 o filwyr Prydain yn erbyn Byddin Weriniaethol Iwerddon (IRA) yn ystod y cyfnod hwnnw.

Troi’r cloc yn ôl

“Mae’r syniad y bydd rhywun yn troi’r cloc yn ôl i edrych ar yr hyn a wnaethoch mewn amgylchedd fforensig, pan wyt ti’n gwneud yr hyn yr oeddet yn credu oedd yn iawn ac yn rhesymol ar y pryd, credaf, yn annheg,” meddai Nick Parker.

Ond mae diffyg eglurder ynglŷn â marwolaethau yn ystod y Trafferthion wedi gweld llawer o deuluoedd yn ymgyrchu am gyfiawnder i’w perthnasoedd a gafodd eu lladd ers blynyddoedd.

Ym mis Chwefror 2017, dangosodd ffigurau Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (PSNI) fod ymchwiliadau i ladd gan y Fyddin Brydeinig yn cymryd tua 30% o’i lwyth gwaith.