Mae dyn wedi cael ei arestio y tu allan i fynediad i balas Westminster yn Llundain, wedi i swyddogion diogelwch ei amgylchynu a’i ddal yn erbyn ffens.

Fe gafodd y dyn ei saethu gyda gwn Taser cyn cael ei hebrwng gan yr heddlu toc wedi hanner dydd heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 11) ond nid yw’n cael ei ystyried yn achos o frawychiaeth.

Yn yr un lle’n union y bu ymosodiad brawychol ym mis Mawrth 2017 pan gafodd y swyddog heddlu, Keith Palmer, ei ladd gan Khalid Masood.

Ar y pryd, roedd syndod yn ymwneud a’r diffyg presenoldeb swyddogion gwarchod arfog ger y fynedfa, a dywedodd y crwner Mark Lucraft QC bod hynny’n golygu nad oeddent yn gwybod yn iawn ble’r oedd eu rolau unigol.

Mae presenoldeb swyddogion wedi cynyddu ers y digwyddiad hwnnw, gyda gwarchodaeth y lle wedi ei gryfhau.