Mae’r heddlu wedi arestio dyn yn Newcastle dan amheuaeth o droseddau brawychol.
Fe gydweithiodd swyddogion Plismona Gwrthderfysgaeth Gogledd Ddwyrain Lloegr a Heddlu Northumbria i arestio’r dyn 33 oed.
Mae’r dyn nawr mewn gorsaf heddlu yng Ngorllewin Swydd Efrog ble mae’n cael ei gwestiynu dros amheuon o gomisiynu, paratoi neu ysgogi gweithredoedd o derfysgaeth.
Roedd yr arestio yn rhan o ymchwiliad parhaus a gynlluniwyd gan yr uned gwrth-frawychiaeth.