Mae ffigurau newydd yn dangos bod y nifer o bobol sydd mewn gwaith ac ar gyflog cyfartalog ar ei uchaf ers deng mlynedd.

Mae record o 32.4 miliwn o bobol mewn gwaith yng ngwledydd Prydain ar hyn o bryd.

Fe gynyddodd cyflogaeth o 79,000 yn y tri mis hyd at fis Hydref, sy’n golygu bod y ffigwr nawr ar 32.4 miliwn – sef yr uchaf ers dechrau cadw cofnod yn 1971.

Er hynny, mae diweithdra hefyd wedi cynyddu – a hynny o 20,000 , sy’n golygu bod y ffigwr nawr ar 1.38 miliwn gyda chynnydd sylweddol yn y nifer o ddynion sydd allan o waith.

Ond mae’r cyfanswm hwnnw 49,000 yn llai, sy’n golygu bod cyfradd diweithdra ar 4.1% – 0.2 yn llai na blwyddyn yn ôl meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Maen nhw hefyd wedi datgan bod cyflogaeth wedi cynyddu o 3.3% yn y flwyddyn Hydref, sydd i fyny o 3.1% o fis Medi.