Mae Theresa May wedi cadarnhau bod y bleidlais dyngedfennol ar Brexit yn Nhŷ’r Cyffredin wedi cael ei “gohirio”.

Wrth ddatgan ei phenderfyniad gerbron Aelodau Seneddol, fe wnaeth hi gydnabod y byddai’r Llywodraeth wedi colli yn wyneb y gwrthwynebiad sylweddol sydd i’w chytundeb Brexit.

Ond ychwanegodd ei bod hi’n credu y gallai “mwyafrif gael ei ennill” yn Nhŷ’r Cyffredin pe bai hi’n sicrhau gwell fargen ynglŷn â’r ffin yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd hefyd wedi dweud bod y Llywodraeth wedi cyflymu’r broses o gynllunio ar gyfer sefyllfa ’dim cytundeb’ gyda’r Undeb Ewropeaidd.

“Cyfaddawdu”

Mae Theresa May wedi dweud ei bod hi am deithio i Frwsel er mwyn ceisio sicrhau consesiynau i’w chytundeb Brexit.

I’r rheiny sydd wedi bygwth pleidleisio yn erbyn ei chytundeb, ychwanegodd, “a ydy’r Tŷ hwn eisiau darparu Brexit?”

Os mai ‘ie’ yw’r ateb, meddai wedyn, yna fe fydd yn rhaid iddyn nhw ystyried a ydyn nhw’n barod ai peidio i “gyfaddawdu” er mwyn parchu canlyniad y refferendwm yn 2016.

“Diffyg hyder”

Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin, wedi galw ar y Blaid Lafur i gyhoeddi pleidlais o ddiffyg hyder yn y Llywodraeth, gan ddweud y byddai Plaid yn ei gefnogi.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Vince Cable, hefyd wedi galw ar Jeremy Corbyn i wneud ei “ddyletswydd” a dwyn cynnig o ddiffyg hyder yn Theresa May ar ôl iddi ohirio’r bleidlais.

Dywedodd Syr Vince Cable bod y Llywodraeth “wedi colli pob awdurdod” ac y byddai ef ac ASau eraill ei blaid yn cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder.

“Angen cynnal etholiad cyffredinol”

Wrth ymateb i gyhoeddiad Theresa May heddiw, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones bod “shambls yn air rhy boleit ar gyfer yr hyn ry’n ni wedi’i weld heddiw gan y Prif Weinidog.

“Mae  sefydlogrwydd economaidd y wlad yn cael ei aberthu ar draul anghenion ei phlaid. Ni all hyn barhau.

“Os nad yw’r Prif Weinidog yn gallu cyflwyno cytundeb sy’n cael cefnogaeth y Senedd, mae angen cynnal etholiad cyffredinol.

“Os nad oes etholiad cyffredinol mae angen pleidlais y bobl i benderfynu ar y telerau y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael [yr Undeb Ewropeaidd] – neu os yw’r wlad yn dymuno aros.”