Mae Llys Cyfiawnder Ewrop wedi dyfarnu y bore ma (Dydd Llun, Rhagfyr 10) y gall Prydain atal proses Brexit ac Erthygl 50.

Dywedodd y llys fod gan unrhyw wlad sy’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd yr hawl i newid eu barn heb ganiatâd gan wledydd eraill sy’n aelodau o’r UE.

Daeth y dyfarniad brys cyn y bleidlais dyngedfennol yn Nhŷ’r Cyffredin yfory (Dydd Mawrth, Tachwedd 11) ar gytundeb Brexit Theresa May.

Fe wrthododd barnwyr ddadleuon gan Lywodraeth Prydain a’r Comisiwn Ewropeaidd oedd yn dweud nad oes posib atal Erthygl 50 o un ochr.

Mi fydd y dyfarniad nawr yn cael ei adolygu ar frys gan lys sifil yr Alban yng Nghaeredin. Mae hyn yn debygol o ddechrau brwydr gyfreithiol gan Lywodraeth Prydain sy’n debygol o gael ei chynnal yn y Goruchaf Lys.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amgylchedd Michael Gove wrth BBC Radio 4 bore ma nad yw’r dyfarniad yn newid bwriad y Llywodraeth i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth 2019.

Ond mae’r dyfarniad wedi plesio’r rhai sy’n cefnogi cynnal ail-refferendwm.