Mi fydd y Prif Weinidog yn cynnal cyfres o gyfarfodydd gydag Aelodau Seneddol wrth iddi geisio ennill cefnogaeth cyn y bleidlais fawr ar Brexit.

Mae Theresa May yn ceisio sicrhau cefnogaeth ASau heddiw cyn i’r penderfyniad mawr ar ei chytundeb Brexit gael ei benderfynu mewn
pleidlais yfory (Dydd Mawrth, Tachwedd 11).

Mae’r cytundeb i adael wedi cael ei gymeradwyo gan arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ond mae angen cefnogaeth San Steffan arni nawr.

Yn ôl Theresa May, byddai gwrthod y cytundeb yn gallu arwain at etholiad cyffredinol, neu dim Brexit o gwbl.

Mae disgwyl i’r Llywodraeth golli’r bleidlais gyda Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, y DUP, yr SNP a dwsinau o ASau’r Ceidwadwyr yn dweud na allen nhw gefnogi’r cytundeb.

Bore heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 10) mae Llys Cyfiawnder Ewrop (ECJ) yn penderfynu os all Prydain ganslo Brexit ai peidio heb ganiatâd 27 aelod arall yr Undeb Ewropeaidd.

Mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr gwrth-Brexit wedi dadlau y dylai Prydain allu atal proses Brexit os yw am wneud hynny.

Mae’r achos yma wedi cael ei wrthwynebu gan lywodraeth gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd. Ond dywedodd uwch swyddog o Lys Cyfiawnder Ewrop wythnos diwethaf ei fod y credu y dylai Prydain allu newid ei meddwl.