Mae dyn 26 oed wedi ymddangos yn y llys yn Seland Newydd ar gyhuddiad o lofruddio teithiwr o Brydain.

Roedd Grace Millane, 22, wedi bod ar goll yn Auckland ers 1 Rhagfyr. Cafwyd hyd i gorff yn Waitakere Ranges ddydd Sul.

Ni ellir cyhoeddi enw’r dyn am resymau cyfreithiol.

Mae dogfennau a gafodd eu cyflwyno i’r llys yn awgrymu bod yr heddlu’n credu bod Grace Millane wedi cael ei lladd rhwng Rhagfyr 1 a 2.

Cafodd ei gweld y tro diwethaf yng Ngwesty Citilife tua 9.41yh ar 1 Rhagfyr yng nghwmni dyn.

Ers iddi gyrraedd Seland Newydd ar 20 Tachwedd ar ôl bod yn teithio ym Mheriw, roedd hi wedi bod mewn cysylltiad dyddiol gyda’i theulu.

Cafodd yr heddlu eu hysbysu ei bod ar goll ddydd Mercher diwethaf ac fe ddechreuodd y chwilio amdani ac apêl am wybodaeth.

Mae Prif Weinidog Seland Newydd Jacinda Ardern wedi gwneud ymddiheuriad emosiynol i’w theulu gan ddweud: “Fe ddylai eich merch fod wedi bod yn ddiogel yma a doedd hi ddim, ac mae’n wir ddrwg gen i am hynny.”

Roedd David Millane, tad Grace Millane, wedi teithio i Seland Newydd wythnos ddiwethaf er mwyn apelio am wybodaeth amdani.