Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai coes dynes aeth ar goll y llynedd a gafodd ei darganfod mewn afon yn ardal Manceinion.
Daeth yr heddlu o hyd i’r goes yn Pendleton ger Salford fore Mercher, Tachwedd 28.
Maen nhw bellach wedi cadarnhau mai coes Marie Scott oedd hi, a hithau ar goll ers Rhagfyr 18 y llynedd.
Dydy’r heddlu ddim yn credu bod amgylchiadau amheus, ac mae ei theulu wedi cael gwybod y diweddaraf.