Mae disgwyl i ddyn 26 oed gael ei gyhuddo o lofruddio dynes 22 oed o Loegr yn Seland Newydd.

Fe fu’r heddlu’n holi’r dyn am ddiflaniad Grace Millane o Essex yn Auckland ar Ragfyr 1.

Bydd y dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa tan ddydd Llun, pan fydd yn mynd gerbron llys.

Cefndir

Graddiodd Grace Millane o Brifysgol Lincoln ym mis Medi, ac roedd hi wedi bwriadu teithio am flwyddyn.

Roedd hi eisioes wedi gadael Periw am Seland Newydd, gan gyrraedd y wlad ar Dachwedd 20.

Dydy hi ddim wedi cael ei gweld ers iddi fod yng nghwmni dyn mewn gwesty ar Ragfyr 1.