Y newyddiadurwraig Fiona Bruce fydd cyflwynydd newydd rhaglen Question Time ar y BBC.

Mae’n olynu David Dimbleby sydd wedi bod wrth y llyw ers 1994.

Eisoes yn enwog am gyflwyno BBC News At Six a’r Antiques Roadshow, Fiona Bruce yw’r ddynes gyntaf i gyflwyno Question Time ers ei sefydlu yn 1979.

Peter Sissons a Syr Robin Day fu yn cyflwyno’r rhaglen yn y gorffennol.

Mae disgwyl i Fiona Bruce gychwyn ar ei swydd newydd yn y flwyddyn newydd.