Mae tad merch o Brydain sydd ar goll yn Seland Newydd, wedi teithio i’r wlad i helpu gyda’r chwilio amdani.

Mae David Millane wedi gwneud apêl emosiynol am wybodaeth ynglŷn â diflaniad ei ferch, Grace Millane, sy’n 22 oed ac wedi bod yn bacpacio o gwmpas y wlad.

Dywedodd David Millane fod y teulu yn “hynod o bryderus” am les eu merch a ddiflannodd tuag wythnos yn ôl.

Roedd Grace Millane, o Essex, wedi bod yn teithio’r byd. Fe gyrhaeddodd Seland Newydd ar Dachwedd 20 ar ôl bod i Beriw.

Bu yn anfon lluniau a negeseuon at ei theulu ond roedden nhw’n bryderus wedi i’r negeseuon ddod i ben o gwmpas Tachwedd 30.

Cafodd ei gweld am y tro diwethaf yn Auckland ar Ragfyr 1 am 9.41 yr hwyr yng ngwesty’r Citylife.

Bryd hynny roedd hi yng nghwmni dyn.