Mae merch saith oed wedi marw mewn tân mewn tŷ yn Darlington.
Fe gafodd ei chludo i ysbyty’r Royal Victoria Infirmary yn Newcastle yn dilyn y tân ddydd Sadwrn diwethaf (Rhagfyr 1), ond bu farw ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 5), meddai Heddlu Durham.
Mae bachgen 16 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol, ac mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth dan ymchwiliad.