Mae dynes wedi ymddangos gerbron llys yng ngogledd Lloegr, wedi’i chyhuddo o ddwyn mwy na £90,000 gan elusen ganser.

Mae Patricia Robertshaw, 42, wedi’i chyhuddo o gymryd arni bod ganddi gymwysterau penodol tra’n rheolwr partneriaeth a digwyddiadau i Yorkshire Cancer Research yn Harrogate, Gogledd Swydd Efrog rhwng 2015 a 2017.

Heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 6), tra’n ymddangos gerbron ynadon Harrogate, doedd dim rheidrwydd iddi gyflwyno plê mewn ymateb i bedwar cyhuddiad o dwyll.

Mae hi hefyd wedi’i chyhuddo, rhwng Ionawr a Chwefror 2013, o greu cofnod ffug gyda’r bwriad iddo gael ei dderbyn fel un gwir.

Mae disgwyl i Patricia Robertshaw ymddangos nesaf gerbron Llys y Goron Efrog ar Ionawr 2.