Mae cyn-Brif Weinidog Prydain, Tony Blair, wedi dweud y dylai unrhyw ail refferendwm ar Brexit fod yn ddewis rhwng aros yn yr Undeb Ewropeaidd neu Brexit caled.

Wrth siarad ar raglen Good Morning Britain ar ITV y bore yma (dydd Llun, Rhagfyr 3), fe ddywedodd y cyn-arweinydd Llafur mai ail refferendwm yw’r unig ddatrysiad ar gyfer y gwrthwynebiad sydd i gytundeb Brexit Theresa May.

Ychwanegodd nad yw’r cytundeb hwnnw’n plesio’r garfan sydd o blaid nac yn erbyn Brexit.

“Yr unig ffordd i ddatrys hyn yw cael opsiwn o aros neu adael, ond gadael ar delerau sy’n nodi’n glir ei fod yn Brexit caled,” meddai’r gwleidydd a fu’n Brif Weinidog rhwng 1997 a 2007.

“Dw i wirioneddol yn meddwl os ydyn ni am adael, gadael, ond peidiwch â cheisio ei wneud yn hanner a hanner.”