Mae arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford yn disgwyl i gynnig gael ei gyflwyno yn San Steffan er mwyn ceisio atal y broses Brexit rhag mynd yn ei blaen.

Er mwyn atal gweithredu Erthygl 50, byddai angen cyflwyno gwelliant i’r ddeddfwriaeth erbyn dydd Sul nesaf (Rhagfyr 9).

Mae rhai aelodau seneddol eisoes wedi awgrymu y bydden nhw’n croesawu gwelliant.

Bydd y bleidlais ar gytundeb Theresa May yn cael ei chynnal ddydd Mawrth nesaf (Rhagfyr 11).

Gwelliant Hilary Benn

Mae Ian Blackford yn dweud ei fod yn cefnogi gwelliant gan yr Aelod Seneddol Llafur, Hilary Benn a fyddai’n atal cytundeb Theresa May rhag mynd yn ei flaen, ac yn osgoi sefyllfa o ddiffyg cytundeb.

“Dw i’n disgwyl, pan fydd Tŷ’r Cyffredin yn agor ar gyfer busnes unwaith eto ddydd Llun, y bydd aelodau seneddol yr SNP yn torri eu henwau ar welliant, a dw i’n galw ar holl aelodau’r Senedd i ystyried ei gefnogi,” meddai wrth BBC yr Alban.

“Wrth gwrs, yr hyn y mae angen i ni ei wneud hefyd yw sicrhau y gallwn atal y broses Erthygl 50 dros dro.

“Gadewch i ni dynnu’r risg oddi ar y bwrdd. Ar ôl gwneud hynny, fel dw i’n credu y byddwn ni’n ei wneud, yna mae gennym gyfle i symud ymlaen gyda chonsensws y gallwn ei adeiladu ar safbwynt y gallwn oll gytuno arno.

“Mae ein safbwynt ni o fewn yr SNP yn glir iawn, fod yr Alban wedi pleidleisio i aros a’n bod yn dymuno aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, a byddwn ni’n sicr yn cyflwyno’r ddadl honno.”