Mae’r heddlu’n dweud nad oes lle i gredu bod cysylltiad rhwng marwolaeth dynes yn Amesbury yn Wiltshire a’r achosion o wenwyno â Novichok yn yr ardal yn gynharach eleni.

Mae dyn 51 oed wedi cael ei arestio mewn perthynas â marwolaeth dynes yn ei 30au.

Cafodd yr heddlu eu galw ar Dachwedd 30 yn dilyn pryderon am ddiogelwch y ddynes, ac fe ddaethon nhw o hyd i’w chorff mewn eiddo.

Dydyn nhw ddim wedi cynnig esboniad hyd yn hyn, ac maen nhw’n apelio am wybodaeth.