Mae un arall o weinidogion llywodraeth Theresa May wedi ymddiswyddo ar sail ei wrthwynebiad i’w chytundeb Brexit.

Dywed Sam Gyimah, gweinidog dros brifysgolion a gwyddoniaeth, na allai gefnogi cytundeb sy’n ildio sofraniaeth i Frwsel gan adael Prydain yn “dlotach, yn llai diogel a gwannach”.

“Byddai cefnogi’r cytundeb yn golygu ildio ein llais, yn pleidlais a’n feto, a cholli rheolaeth ar ein tynged fel gwlad,” meddai.

Ef yw’r seithfed gweinidog i ymddiswyddo o’r Llywodraeth ers i Theresa May ddatgelu’r Cytundeb Gadael bythefnos yn ôl.

Ac yntau wedi cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm yn 2016, mae ei ymddiswyddiad yn arwydd o’r trafferthion mae Theresa May yn eu hwynebu o ddwy adain ei phlaid.