Bydd y rhwydwaith mwyaf o fannau gwefru ceir trydan yn cael ei ddarparu gan Tesco o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

Mae’r archfarchnad yn cydweithio â’r cwmni ceir Volkswagen er mwyn datblygu 2,400 o fannau gwefru ceir trydan erbyn 2020.

Bydd cyflenwad penodol o drydan (7kW) yn cael ei ddarparu am ddim i gwsmeriaid, tra bo man gwefru 50kW ar gael am gost.

Y cwmni o Lundain, Pod Point, fydd yn gosod y mannau gwefru, ac mae disgwyl i fan gwefru 7kW sicrhau bod car yn gallu teithio hyd at 30 milltir yr awr.

Yn ôl Tesco, maen nhw am fod y darparwr trydan mwyaf ar gyfer ceir, gan sicrhau bod “atebion cynaliadwy” ar gael i’w cwsmeriaid.

Dywed Volkswagen UK hefyd fod y cynllun newydd hwn yn tanlinellu maint eu pwyslais ar geir trydan yng ngwledydd Prydain.