Mae cwmni siopau Pets at Home wedi cyhoeddi y bydd tua 30 o’u canolfannau milfeddygon yn cau yng Nghymru a Lloegr, wrth iddyn nhw geisio torri costau.

Mae Peter Prichard, prif weithredwr newydd y grwp, yn dweud ei fod yn bwriadu prynu allan tua 55 practis o’r Vet Group o 471 practis.

Fe ddaw’r cyhoeddiad wrth i’r grwp gyhoeddi bod ei elw i lawr 80% i £8m yn y chwe mis yn arwain at fis Hydref eleni. Roedd y cwmni wedi gorfod gwario £29m ar gostau yn ymwneud â’r ochr filfeddygol.

“Ers dod yn brif weithredwr ym mis Mai, dw i wedi cael cyfle i edrych ar y grwp yn ehangach a gweithio allan y siâp gorau ar gyfer y grwp yn y dyfodol,” meddai Peter Prichard.

“Mae edrych eto ar ochr Vet Group wedi bod yn flaenoriaeth,” meddai wedyn. “Mae’r ochr yna o’r cwmni wedi tyfu’n gyflym iawn, ac oherwydd hynny mae yna gostau wedi bod ynglyn â hynny sydd wedi ein rhoi ni dan bwysau.

“Mae’n rhaid i ni edrych eto ar y busnes er mwyn gallu tyfu tra’n delifro elw hefyd.”