Cael y newyddiadurwraig Nazanin Zaghari-Ratcliffe adref fyddai’r “anrheg Nadolig gorau” i’w theulu, yn ôl Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Jeremy Hunt.

Cafodd y fam a newyddiadurwraig 39 oed, sy’n gweithio i Sefydliad Thomson Reuters, ei harestio yn Tehran ym mis Ebrill 2016.

Cafodd ei dedfrydu’n ddiweddarach i bum mlynedd dan glo ar gyhuddiad o ysbïo.

Bu ei gŵr, Richard Ratcliffe, yn ymgyrchu’n ddiflino er mwyn sicrhau y gall hi ddod adref, gan ddweud ei bod hi’n dioddef yn gorfforol ac yn feddyliol.

“Pe bai hi’n gallu dod adref, onid dyna fyddai’r anrheg Nadolig gorau, nid yn unig iddi hi ond i’r wlad gyfan?” meddai Jeremy Hunt wrth raglen Andrew Marr y BBC.

Cefndir

Fe wnaeth Jeremy Hunt grybwyll achos Nazanin Zaghari-Ratcliffe mewn cyfarfod â Gweinidog Tramor Iran yn Efrog Newydd ym mis Medi.

Fis cyn hynny, cafodd hi ei rhyddhau o’r carchar am dridiau, ond bu’n rhaid iddi ddychwelyd ar ôl i’w chais am estyniad gael ei wrthod.

Dywed Jeremy Hunt fod yr achos yn un “heriol”, gan ychwanegu na chafodd yr hawl i gyfarfod â hi yn ystod ei ymweliad ag Iran.

“Mae Iran yn un o’r gwledydd mwyaf gwaraidd yn y Dwyrain Canol, mae am fod yn rym rhanbarthol mawr,” meddai.

“Os ydyn nhw am gael eu parchu, peidied â chloi pobol ddieuog i fyny fel dull o drafod diplomyddol – mae’n hollol annerbyniol.”

Ychwanega fod y gwlad yn gwrando ar ei bryderon, ond mai a fyddan nhw’n gweithredu sy’n gwestiwn arall.