Mae arweinydd y DUP, Arlene Foster yn dweud na fydd ei phlaid yn cefnogi cytundeb Brexit Theresa May, gan fynnu nad yw’n fater o ddewis rhwng y cytundeb presennol a dim cytundeb o gwbl.

Er bod arweinwyr Ewrop wedi cymeradwyo’r cytundeb ym Mrwsel, dywed Arlene Foster na fyddai ei phlaid yn cefnogi’r cytundeb o dan unrhyw amgylchiadau.

“Rwy’n credu y dylen ni ddefnyddio’r amser hwn nawr i chwilio am drydedd ffordd, ffordd well,” meddai wrth raglen Andrew Marr y BBC.

“Ddylen ni ddim jyst derbyn canlyniad er mwyn ei dderbyn – dylen ni geisio cytundeb sy’n dda i bawb.”

Ôl-stop

Mae’r cytundeb presennol yn cyfateb i “ôl-stop” a fyddai’n tynnu Gogledd Iwerddon i mewn i nifer o gytundebau Ewropeaidd, yn ôl Arlene Foster.

Mae hynny, meddai, yn annerbyniol.

“Dydyn ni ddim yn galw am ddim cytundeb, rydyn ni’n galw am gytundeb gwell,” meddai.

“Ry’n ni am weld yr ôl-stop Gwyddelig yn mynd. Does dim angen ôl-stop Gwyddelig, felly gadewch i ni gael ei wared.”

Cytundeb yn San Steffan

Mae cytundeb y DUP i gefnogi’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn fyw o hyd, meddai Arlene Foster, ond mae’n dweud y gallai’r cytundeb hwnnw gael ei adolygu yn sgil cytundeb Brexit Theresa May.

“Byddai’n rhaid i ni weld lle’r ydyn ni arni pan ddeuai’r bleidlais honno,” meddai.