Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon yn dweud fod “bron ddim gwirionedd” mewn llythyr gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May yn galw am gefnogaeth i Brexit.

Yn ei “llythyr i’r genedl”, a gafodd ei gyhoeddi ar drothwy cyfarfod arweinwyr Ewrop ym Mrwsel, dywed Theresa May y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ddechrau “pennod newydd yn ein bywyd cenedlaethol”.

Dywed hefyd y bydd canlyniad refferendwm 2016 yn cael ei anrhydeddu, ac y byddai terfyn ar symud yn rhydd yn Ewrop.

‘Despret’

Ond “despret” yw disgrifiad Nicola Sturgeon o’r llythyr, wrth iddi alw am gyflwyno opsiynau amgen i gytundeb Brexit, gan gynnwys aros yn rhan o’r farchnad sengl neu gynnal ail refferendwm.

“Dw i ddim yn dweud hyn yn ysgafn, ond does bron ddim yn y llythyr despret hwn sy’n wir,” meddai Nicola Sturgeon ar ei thudalen Twitter.

“Mae hwn yn gytundeb gwael, wedi’i yrru gan linellau cochion hunanorchfygol y Prif Weinidog a’i boddio parhaus i asgell dde ei phlaid ei hun.

“Dylai’r Senedd ei wrthod a chefnogi opsiwn amgen well – y farchnad sengl/undeb tollau neu #PleidlaisyBobol.”

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan Ysgrifennydd Brexit yr Alban, Mike Russell, wrth iddo ddweud nad yw’n “gweithio i’r Alban”.