Mae dyn 24 oed wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio plismon yn nwyrain Llundain nos Wener (Tachwedd 23).
Mae Daniel Adeyemi wedi’i gyhuddo o’r ymosodiad â chyllell ger gorsaf drenau Ilford.
Bydd e’n mynd gerbron ynadon ddydd Llun (Tachwedd 26).
Mae hefyd wedi’i gyhuddo o fod â llafn yn ei feddiant, ac o ymosod ar blismon arall.
Mae lle i gredu ei fod e wedi ymosod ar yr heddlu am oddeutu 9.45yh, cyn cael ei arestio’n ddiweddarach.