Mae bachgen dwy oed wedi marw yn yr ysbyty, wythnos ar ôl iddo gwympo o ffenest yn Lerpwl.

Cafwyd hyd iddo ar balmant ag anafiadau i’w ben yn dilyn y digwyddiad yn ardal Tuebrook ddydd Sadwrn diwethaf (Tachwedd 17).

Cafodd ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Fe fu’n rhaid diffodd ei beiriant cynnal bywyd neithiwr (nos Wener, Tachwedd 23).

Mae lle i gredu ei fod e’n chwarae gyda phlant eraill ar lawr ucha’r adeilad pan gwympodd.

Fe fu’r heddlu’n apelio am gymorth dynes oedd wedi helpu’r bachgen bach ar ôl y digwyddiad.