Mae arweinydd UKIP wedi amddiffyn ei benderfyniad i benodi’r ymgyrchydd asgell dde eithafol, Tommy Robinson, yn ymgynghorydd i’r blaid.

Daw hyn wedi i’r cyn-arweinydd, Nigel Farage, gyhuddo’i olynydd, Gerard Batten, o lywio’r blaid tuag at gyfeiriad “cywilyddus”.

Tommy Robinson yw sefydlydd yr EDL (Cynghrair Amddiffyn Lloegr), ac mi fydd yn ymgynghori Gerard Batten ar ddiwygio carchardai a ‘gangiau treisio’.

Wrth siarad ar raglen BBC Radio 4 World at One, roedd Gerard Batten yn amddiffyn ei benderfyniad yn gadarn, a tharo yn ôl yn erbyn ei rhagflaenydd.

“Dw i’n synnu bod Nigel yn poeni am y blaid cymaint, yn awr,” meddai. “Dyw e ddim wedi gwneud unrhyw beth i gefnogi UKIP dros y ddwy flynedd diwethaf.

“Dim cam tuag at y cyfeiriad anghywir yw hyn. Mae [Nigel Farage]  wedi fy adnabod am 26 blynedd, ac mae’n gwybod pa fath o berson ydw i.”