Dyw’r cytundeb newydd rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn ddim ond 26 tudalen o “falu awyr”, yn ôl yr arweinydd Llafur.

Fe ddywedodd Jeremy Corbyn bod y ddogfen yn yn “wag” – hi sy’n gosod gweledigaeth y ddwy ochr ar gyfer trafodaethau masnach wedi Brexit.

Roedd yn ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog, Theresa May, yn cymeradwyo’r cynllun a gafodd ei gytuno’n derfynol gan wledydd yr Undeb ddoe.

Roedd hi’n mynnu bod “pobol Prydain eisiau gweld Brexit yn cael ei setlo” ac eisiau i bawb ddod at ei gilydd i ganolbwyntio ar faterion cartref pwysig fel y Gwasanaeth Iechyd.

Beirniadu

Mae’r cytundeb wedi cael ei feirniadu o sawl cyfeiriad ac am sawl gwahanol reswm, gan gynnwys bod yn rhy obeithiol, yn llawn geiriau gwag ac yn annelwig.

Mae gwleidyddion yr Alban eisoes wedi condemnio’r cytundeb am addo Polisi Pysgota Cyffredin newydd – gan ddweud bod hynny’n torri addewid i gael annibyniaeth yn y maes.