Mae’r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi gorfod canslo ymweliad â Sir Benfro er mwyn cymryd rhan mewn dad lar ddatganiad brys yn Nhŷ’r Cyffredin.

Fe fydd ym ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog Theresa May am y cytundeb diweddara’ ynghylch dyfodol y Deyrmas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd..

Roedd Jeremy Corbyn fod i ymweld â hufenfa yn y sir, sydd yn sedd ymylol yn San Steffan ac yn un o dargedi tebygol y Blaid Lafur.

Trafod Brexit

Ei fwriad oedd cyfarfod gweithwyr First Milk yn Hwlffordd yn ystod y prynhawn – gan drafod ei deimladau ynglŷn ag effaith wael cytundeb Brexit y Llywodraeth.

Mae’n dweud y byddai  hwnnw’n wael i’r rhanbarthau a gwledydd fel Cymru fyddai’n “wael i’n rhanbarthau a’n wledydd.”

Mae’r cytundeb newydd – ynglŷn â’r berthynas bosib yn y dyfodol rhwng yr Undeb a gwledydd Prydain – eisoes wedi ei feirniadu gan Arhoswyr a Brexitwyr fel ei gilydd, am fod yn arwynebol a llawn geiriau gwag.