Fe gollwyd sawl cyfle i atal bom rhag ffrwydro ym Manceinion oherwydd nifer o fethiannau gan y gwasanaethau diogelwch.

Dyna gasgliad adroddiad gan Bwyllgor Diogelwch a Gwybodaeth Seneddol, fu yn edrych ar y modd y bu MI5 yn delio gyda Salman Abedi cyn i’r hunanfomiwr ffrwydro mewn cyngerdd pop fis Mai’r llynedd, gan ladd 22 o bobol.

Daeth MI5 yn ymwybodol o Salman Abedi, 22, ym mis Rhagfyr 2010 a bu yn destun ymchwiliad ganddyn nhw yn 2014.

Dywedodd y pwyllgor seneddol bod MI5 yr hunanfomiwr wedi mynd i weld eithafwr arall yn y carchar ar fwy nag un achlysur, ond bod MI5 a’r heddlu wedi gwneud dim am y peth.

Hefyd roedd MI5 wedi penderfynu peidio cyfyngu ar hawl Salman Abedi i deithio, na’i fonitro – roedd hyn yn golygu bod modd iddo ddychwelyd i Brydain yn ddirwystr yn y dyddiau cyn ffrwydro’r bom.

Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Seneddol, Dominic Grieve: “Yr hyn allwn ni ddweud yw bod nifer o fethiannau wedi bod wrth ddelio gydag achos Salman Abedi… oherwydd y methiannau, fe gollwyd cyfleoedd posib i’w rwystro.”