Mae adolygiad wedi canfod tystiolaeth bod dros 100 o blant wedi cael eu cam-drin o fewn mudiad ieuenctid yn Iwerddon rhwng y 1960au a’r 1980au.

Yn ôl Gweinidog Plant y wlad, Katherine Zappone, mae adolygiad annibynnol yn dangos bod 108 o blant a fu’n aelodau o Scouting Ireland wedi cael eu cam-drin gan 71 o unigolion.

Wrth annerch pwyllgor seneddol, dywedodd y gweinidog fod disgwyl i’r ffigyrau hyn gynyddu, gan nad yw’r adolygiad wedi’i gwblhau eto.

Ond o ran y dystiolaeth sydd eisoes wedi dod i’r fei, dywedodd fod gwybodaeth am yr unigolion sy’n cael eu hamau o gam-drin plant ac sy’n dal yn fyw, wedi cael ei throsglwyddo at y Garda a’r asiantaeth diogelwch plant, Tusla.

Ychwanegodd hefyd nad yw’n credu bod y bobol hynny sy’n cael eu nodi yn yr adolygiad yn dal i weithio i Scouting Ireland.

Yn dilyn cyhoeddi’r ffigyrau, mae’r mudiad ieuenctid wedi ymddiheuro am y “niwed” a achoswyd, gan ychwanegu bod Scouting Ireland yn “gweithio’n galed” i gasglu pob manylyn posib am yr achosion o gam-drin plant a fu dros y blynyddoedd.