Mae gwleidyddion a mudiadau hawliau merched yn galw ar Lywodraeth Prydain i sicrhau bod pleidiau yn cyhoeddi rhestr o ferched sy’n ymgeisio am seddi etholiadol.

Daw’r galw hwn ganrif yn union ers i ferched sicrhau’r hawl i gael eu hethol i’r Senedd yn San Steffan.

Mae Aelodau Seneddol o Blaid Cymru a’r SNP ymhlith y gwleidyddion hynny ar draws prif bleidiau San Steffan sy’n dweud bod angen gweithredu Adran 106 o’r Ddeddf Cydraddoldeb.

Bydd y cam hwn, medden nhw, yn gorfodi pleidiau i gyhoeddi rhestr o’u holl ymgeiswyr seneddol fel bod modd cael gwell ddealltwriaeth o’r anghydraddoldeb sy’n bodoli rhwng ymgeiswyr benywaidd a gwrywaidd.

Ond dadl Llywodraeth Prydain yw y bydd cyhoeddi data o’r fath yn “ormod o faich” ar bleidiau.

Camau ymlaen

“Heddiw, rydyn ni’n dathlu can mlynedd ers i fenywod sicrhau’r hawl i sefyll mewn etholiad ar gyfer y Senedd,” meddai’r llythyr gan Aelodau Seneddol. “Ond canrif ers y Ddeddf, mae merched yn dal ddim yn cael eu cynrychioli’n llawn mewn gwleidyddiaeth.

“Allwn ni ddim barhau i gymryd yn ganiataol y bydd y broblem hon yn diflannu gydag amser – mae angen i ni ddelio â gwraidd y peth. Ond i wneud hynny, mae angen i ni wybod ble rydyn ni’n sefyll.

“Does ganddon ni ddim ffigyrau i ddangos faint o ferched sy’n cael eu dewis gan bleidiau mewn etholiadau. Mae busnesau wedi cymryd camau ynghylch anghydraddoldeb cyflogau. Mae’n amser i bleidiau cymryd camau ynghylch anghydraddoldeb o ran ymgeiswyr etholiadol.”

Mewn llythyr ar wahân gan fudiadau fel y Gymdeithas Fawcett, Women’s Aid a’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol, mae’n nodi mai dim ond 491 o ferched – gan gynnwys 19 o Gymru – sydd wedi cael eu ethol yn Aelodau Seneddol ers 1918.

Mae’r ffigwr hwn, medden nhw, ond hanner cant yn fwy na’r nifer o ddynion sy’n dal sedd yn Nhŷ’r Cyffredin ar hyn o bryd