Mae hanner pobol ifanc gwledydd Prydain yn teimlo nad yw addysg yn eu paratoi ar gyfer byd gwaith, ac maen nhw’n teimlo nad ydyn nhw’n cael digon o brofiad gwaith cyn gadael yr ysgol.

Dyma sy’n cael ei nodi mewn adroddiad newydd gan Ffederasiwn Diwydiant Prydain, wedi iddyn nhw holi dros 1,000 o bobol rhwng 17 a 23 am eu profiadau o fyd addysg.

Maen nhw’n credu’n gryf bod cysylltiad rhwng profiadau disgyblion a busnesau – boed drwy brofiad gwaith neu dripiau ysgol – yn ei gwneud hi’n fwy tebygol bod unigolion yn teimlo’n barod at fyd gwaith.

“Rhaid i fusnesau chwarae rhan”

“Mae symudedd cymdeithasol yn stond yn y wlad yma sy’n her i’r Senedd, busnesau a’r gymdeithas ehangach,” meddai John Allan, llywydd Ffederasiwn Diwydiant Prydain.

“Mae’n frawychus i ganfod bod o gwmpas hanner o bobol ifanc yn teimlo nad yw eu haddysg wedi eu paratoi ar gyfer byd gwaith.”

“Mae athrawon, ysgolion a cholegau yn haeddu gwell cefnogaeth ac mae’n rhaid i fusnesau chwarae rhan.”