Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn yn cyfaddef nad yw’n sicr pa ffordd y byddai’n pleidleisio pe bai ail refferendwm Ewropeaidd yn cael ei gynnal.

Daw ei sylwadau yn dilyn cyfweliad ar raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News, wrth iddo ddweud bod ail refferendwm yn “opsiwn ar gyfer y dyfodol”, ond nad yw’n “opsiwn ar gyfer heddiw”.

Ac mae’n dweud na all ei blaid “atal Brexit” oherwydd y niferoedd y bobol yn y Senedd yn San Steffan.

Cytundeb Brexit

Mae Jeremy Corbyn hefyd wedi wfftio cytundeb Brexit Prif Weinidog Prydain, Theresa May, gan ddweud ei fod yn “gytundeb un ffordd” sy’n galluogi’r Undeb Ewropeaidd i reoli’r sefyllfa.

“Fe wnawn ni bleidleisio yn erbyn y cytundeb hwn am nad yw’n ateb ein meini prawf,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn credu ei fod er lles y wlad hon, ac felly mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd yn ei hôl i’r Undeb Ewropeaidd a thrafod o’r newydd ar frys.

“Mae 500 o dudalennau yn y ddogfen hon a llawer ohono’n annelwig. Ble mae’r sicrwydd ynghylch gwarchod yr amgylchedd? Ble mae’r sicrwydd ynghylch gwarchod cwsmeriaid? Ble mae’r sicrwydd ynghylch hawliau gweithwyr?”

Dywed nad yw’n sicr pa ffordd y byddai’n pleidleisio mewn ail refferendwm, a bod hynny’n dibynnu ar “yr opsiynau sydd ar gael ar y pryd”.