Mae’r actor John Bluthal, oedd yn adnabyddus am ei bortread o’r cymeriad Frank Pickles yn ‘The Vicar of Dibley’ wedi marw’n 89 oed.

Y cymeriad hwnnw oedd ysgrifennydd cyngor plwyf Dibley, pentref dychmygol yn Sir Rydychen.

Ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo mae prif actores y gyfres honno, Dawn French.

“Llwyth o chwerthin hapus yn cael ei gofio heddiw. Coeth, drwg, doniol iawn. Hwyl fawr, Bluey annwyl,” meddai ar ei thudalen Twitter.

“Rydym yn drist o gyhoeddi bod ein cleient hyfryd, John Bluthal wedi marw,” meddai asiantaeth dalent The Artist’s Partnership.

“Mae ein meddyliau gyda’i deulu ar yr adeg hon. Rhoddodd John flynyddoedd o chwerthin ac adloniant i ni. Byddwn ni’n gweld eisiau John yn fawr iawn.”

Fe ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau yn y gyfres Carry On, ac fe gydweithiodd hefyd â Spike Milligan. Roedd hefyd yn adnabyddus am ei rôl yn y ffilm Pink Panther.